Features

Deg rheswm dros ddefnyddio YaraBela Nutri Booster yr haf hwn

By: Philip Cosgrave

Yr her rhwng nawr a'r hydref yw sicrhau'r tyfiant porfa gorau posibl fel y gellir ymestyn y tymor pori a bydd digon o silwair o ansawdd da ar gyfer y gaeaf. Er mwyn cefnogi ein ffermwyr da byw yn yr her hon rydym ni yn Yara yn datblygu cynhyrchion fel YaraBela Nutri Booster.


Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster
Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster

Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster

1. Mae Nutri Booster yn cynnwys y swm union gywir o sylffwr ar gyfer tyfiant porfa

Pam fod 5% SO3 yn ddigon?

  • Mae cyfradd sylffwr yn cyfateb i gyfradd tyfiant porfa o fis Awst

  • Mae defnyddio gormod o sylffwr yn wastraff diangen.

2. Mae gan y nitrogen a ddefnyddir mewn Nutri Booster yr allyriadau amonia isaf

Pam ei fod yr isaf?

  • Nid yw Amoniwm Calsiwm Nitrad a ddefnyddir yn Nutri Booster yn dueddol o ddioddef colled amonia fel wrea neu wrea wedi'i ddiogelu.

3. Mae defnyddio Nutri Booster yn golygu mwy o borfa am bob kg o N a ddefnyddir

Beth yw'r rheswm dros hyn?

  • Mae colli llai o N i'r atmosffer yn golygu bod mwy o N ar gael ar gyfer eich porfa
  • Synergedd o gael nitrogen a sylffwr gyda'i gilydd.

4. Mae Nutri Booster yn Wrtaith Cyfansawdd Cymhleth

Beth yw ystyr hynny?

  • Mae pob gronyn yn cynnwys nitrogen, sylffwr a seleniwm – nid yw'r maetholion wedi'u gwahanu
  • Rhagor o safleoedd glanio ar gyfer sylffwr a seleniwm.

5. Gellir gwasgaru Nutri Booster yn fanwl gywir

Pam fod hyn yn bwysig?

Patrwm gwasgaru cytbwys, boed eich bod yn gwasgaru 12m neu 24m.
Mae'n sicrhau mai'r taeniad yr ydych am ei gael yw'r gyfradd taenu a gewch ar draws lled cyfan bowt y peiriant gwasgaru

6. Mae Nutri Booster yn ddi-lwch

Dim llwch?

  • Dim gwaddod llwch yng nghefn y peiriant gwasgaru.
  • Mae'n cymryd llai o amser i olchi eich peiriant gwasgaru.
  • Gwasgariad gwrtaith mwy cytbwys

7. Yr hyn a ddywed ar y bag Nutri Booster sydd yn y bag

Sut allwch chi warantu hyn?

  • Rheolaeth ansawdd llym, heb ei debyg o fewn y diwydiant, ers 1905.
  • Fe'i cynhyrchir bob amser yn ffatrïoedd Yara

8. Mae Nutri Booster yn cynnwys seleniwm ar gyfer iechyd da byw

A yw gwrteithiau wedi'u cyfnerthu â seleniwm yn gweithio?

  • Nid oes digon o seleniwm mewn glaswellt sydd heb ei gyfnerthu i fodloni gofynion dietegol buwch odro
  • Mae angen digon o seleniwm ar wartheg ar gyfer eu system imiwnedd ac i gynnal beichiogrwydd

9. Mae Nutri Booster yn cynnwys y math gorau o seleniwm

Beth yw'r math gorau?

  • Sodiwm selenad yw math mwyaf effeithlon o seleniwm a roddir ar bridd.

10. Mae'r seleniwm mewn glaswellt yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol gan y fuwch

Pam?

  • Mae seleniwm mewn porfa ynghlwm i'r protein sy'n ei wneud yn haws i'w amsugno.

Mae angen YaraBela Nutri-Booster arnoch os ydych eisiau:

  • Tyfu mwy o borfa a gwell porfa am bob kg o N a roddir

  • Arbed amser gyda gwasgariad gwrtaith hyderus a chytbwys

  • Gwella ansawdd llaeth ar draws y fuches

Read more about selenium fertilisers and animal health

Cyngor cysylltiedig

Tyfu'r dyfodol | Hybu tyfiant y gwanwyn

Hybu tyfiant y gwanwyn gyda gwasgaru nitrogen ynghyd a sylffwr

Bydd defnyddio nitrogen cynnar fel nitrad yn rhoi'r dechrau gorau i'r borfa, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sylffwr - mae'n gwella effeithlonrwydd nitrogen ac yn gwneud yn iawn am y diffygion yn eich pridd.
Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Prif elfennau cynnyrch gwair yw nifer y dail fesul arwynebedd uned a'r cynnwys o ran deunydd sych. Mae rhaglen wrteithio gytbwys sy'n cynnwys yr holl facrofaethynnau a microfaethynnau yn hanfodol mwyn cael y gwerth maethol a'r cynnyrch gorau posibl.
Sut i wella ansawdd glaswelltir

Sut i wella ansawdd glaswelltir

Y tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori yw ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid. Dylanwadir yn gryf ar bob un o'r elfennau hyn gan raglen faeth gytbwys.
Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Mae gan anifeiliaid pori ofynion gwahanol am ficrofaethynnau na'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Mae seleniwm yn faethyn hanfodol i anifeiliaid ond nid ar gyfer planhigion felly mae'n bwysig bod digon ohono yn bresennol yn y gwair i...
Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Mae nifer o fanteision i gynyddu cyflenwad gwair gwanwyn cynnar fel y gall da byw ddechrau pori yn gynharach, nid y lleiaf arbed arian a fyddai fel arall yn cael ei wario ar brynu porthiant. Gall maeth chwarae rôl hollbwysig mewn dylanwadu ar dyfiant...
Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Mae nifer o gwmnïau ffermio, am reswm da, wedi'u gwreiddio mewn traddodiad a phan ddaw hi i brynu gwrtaith mae ffermwr yn parhau i brynu'r hyn y maent wedi bod yn ei brynu erioed. Ond os yw peidio gwasgaru sylffwr ar borfa yn costio dros £100/hectar i chi...
Agronomy Advice - Managing spring fertiliser and slurry applications

Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori

Yn dilyn blwyddyn arferol byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod peth maethynnau yn dal ar gael ar gyfer gwair y gwanwyn, ond yn dilyn gaeaf arbennig o wlyb efallai na fydd hyn yn wir. Felly dyma ein cyngor ar gyfer rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri.
Agronomy Advice - Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair.