Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Prif elfennau cynnyrch gwair yw nifer y dail fesul arwynebedd uned a'r cynnwys o ran deunydd sych. Daw cynnyrch uwch drwy optimeiddio nifer y dail, cynnal canopi o ddail gwyrdd a chael cynnwys deunydd sych uchel. Mae rhaglen wrteithio gytbwys sy'n cynnwys yr holl facrofaethynnau a microfaethynnau yn hanfodol er mwyn helpu i reoli'r holl elfennau hyn.

Nitrogen yw'r maethyn hollbwysig ar gyfer dylanwadu ar gynnyrch glaswelltir. Mae'r gofynion ar gyfer potasiwm, ffosffad, sylffwr, calsiwm a magnesiwm yn gysylltiedig â swm y nitrogen a ddefnyddir. Mae galw mawr am y macrofaethynnau hyn yn ystod tyfiant y gwanwyn cynnar ac er mwyn osgoi cyfyngu ar gynnyrch mae'n hollbwysig bod symiau digonol o faethynnau ar gael i'w cymryd pan fydd y planhigyn eu hangen.

Effeithiau nitrogen ar gynnyrch glaswelltir

Nitrogen yw'r prif faethyn sydd ei angen ar wair. Dyma'r allwedd ar gyfer sicrhau cynnyrch uchel o ddeunydd sych ac yn aml fe'i defnyddir yn strategol er mwyn cynyddu cynhyrchiant yn ôl y galw. Yr allwedd i gael cynnyrch uchel yw defnyddio'r swm cywir o nitrogen, o'r ffynhonnell gywir ar yr adeg gywir.

Cromlin ymateb nitrogen ar gyfer silwair toriad cyntaf

Cromlin ymateb nitrogen ar gyfer silwair toriad cyntaf


Mae'r siart yn dangos yr ymateb nitrogen nodweddiadol o ddefnyddio AN neu Wrea yn seiliedig ar dreialon Yara a gynhaliwyd dros nifer o flynyddoedd. Bydd yr amodau mwyaf ffafriol gwirioneddol yn dueddol o amrywio yn dibynnu ar leoliad y safle a'r potensial ar gyfer tyfiant gwair.

Y Rheol Glaswelltir – Y lefel gywir o N i'w rhoi

Y Rheol Glaswelltir – Y lefel gywir o N i'w rhoi

Caiff nitrogen ei sugno gan rywogaethau gwair yn gyflymach nag y caiff ei ymgorffori mewn proteinau a strwythurau eraill. Felly er mwyn cael yr effeithlonrwydd gorau rhaid bod digon o amser rhwng ei roi a'r torri neu'r pori. Mae hyn wedi arwain at ddatblygiad y Rheol Glaswelltir i ddefnyddio nitrogen ar gyfradd o 2.5kg N/hectar/dydd er mwyn cael yr effeithlonrwydd cynhyrchiant gorau posibl.

Effeithiau ffosfforws ar gynnyrch glaswelltir

Mae ffosfforws yn chwarae rôl mewn nifer o brosesau metabolig planhigion a gweithgareddau ensymau. Felly, er bod y galw am ffosfforws yn isel o gymharu â'r galw am nitrogen mae ei argaeledd yn hanfodol. Mae ffosfforws yn cyflymu ac yn gwella tyfiant gwair ac mae'n bwysig ar gyfer cynyddu cynnyrch. Po hynaf y borfa, y pwysicaf yw cael gwrteithiad ffosfforws.

Dylanwad pH pridd ar argaeledd ffosffad yn y pridd

Dylanwad pH pridd ar argaeledd ffosffad yn y pridd

 

Dylanwad tymheredd pridd ar argaeledd ffosffad

Dylanwad tymheredd pridd ar argaeledd ffosffad

Mae ffosfforws yn ansymudol iawn mewn pridd ac mae ei argaeledd wedi'i gyfyngu gan pH, gan y pellter oddi wrth wreiddiau'r planhigyn a thymheredd y pridd.

Bydd tymheredd oer, boed hynny yn y pridd neu'n amgylchynol, yn lleihau faint o ffosffad y bydd y planhigyn yn ei gael, gan gychwyn symptomau diffyg yn y ddeilen. Hyd yn oed pan fo lefel ddigonol o ffosffad yn y pridd, gall symptomau diffyg ddal gael eu cychwyn.

Effeithiau potasiwm ar gynnyrch glaswelltir

Potasiwm yw'r maethyn sy'n cael ei gymryd yn y symiau mwyaf gan borfeydd glaswelltiroedd. Mae gan botasiwm rôl eang mewn mewnlifiad maethynnau sy'n effeithio ar blanhigion, ffotosynthesis, cyfradd tyfiant a gwerth porthiant.

Mae potasiwm yn arbennig o bwysig ar gyfer cynyddu cryfder coesyn, gwella gallu'r planhigyn i wrthsefyll sychder a goddef oerfel ac yn bwysig ar gyfer cynyddu cynnyrch. Mae gwrteithiad potasiwm yn bwysig yn arbennig yn yr hydref ac ar wair hŷn. Y dyddiau hyn mae diffyg potasiwm yn dod yn fwy o broblem, yn arbennig mewn rhai gwledydd Sgandinafaidd.

Os nad oes digon o botasiwm ar gael cyfyngir ar gyfradd y tyfiant a'r cynnyrch. Fodd bynnag gallai fod perygl i iechyd anifeiliaid os rhoddir gormod o botasiwm gyda risg gynyddol o hypomagneremia.

Ymateb cynnyrch silwair i botash ar briddoedd sydd â mynegai K isel

Ymateb cynnyrch silwair i botash ar briddoedd sydd â mynegai K isel

Mae'r data hwn o'r DU yn dangos yr ymateb potasiwm ar wahanol briddoedd statws K.

Mae perthynas hefyd rhwng nitrogen a photasiwm gan fod ymateb gwair i nitrogen yn ddibynnol ar argaeledd cyflenwad o botasiwm i ganiatáu N i gael ei gymryd fel nitrad a'i droi'n broteinau.

Mae rheolaeth glaswelltir yn cael effaith fawr ar ofynion potasiwm. Mae gweithdrefnau torri gwair ar gyfer silwair neu wair yn tynnu symiau mawr o botasiwm sydd angen ei adnewyddu ac mae'n rhesymegol i ddychwelyd hwn fel gwrteithiau pan fo hynny'n bosibl. Mae gan weithdrefnau pori ofynion gwahanol iawn gan fod cyfran fawr o'r potasiwm yn cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r borfa a bydd yr angen am botasiwm yn is.

Y galw am botasiwm a photash gan wair a chyfradd stocio

Y galw am botasiwm a photash gan wair a chyfradd stocio


Mae'r data hwn yn dangos y symiau o P a K a dynnir drwy dorri'r gwair ac yn cydbwyso hyn gydag enillion o dda byw naill ai'n uniongyrchol fel slyri a gwrteithiau.

Effeithiau sylffwr a magnesiwm ar gynnyrch glaswelltir

Mae sylffwr yn hanfodol ar gyfer ffurfiad protein ac felly'n hollbwysig ar gyfer tyfiant a datblygiad. Wrth i wair dyfu defnyddir sylffwr a nitrogen gyda'i gilydd felly bydd diffyg sylffwr yn lleihau effeithlonrwydd defnydd nitrogen ac felly'n lleihau cynnyrch. Yn y gorffennol cyflenwyd sylffwr drwy waddodiad atmosfferig. Fodd bynnag, o ganlyniad i leihad mewn allyriadau diwydiannol a gwell ansawdd aer, mae hyn wedi dod yn llawer is yn y blynyddoedd diwethaf felly gwelir ymatebion cynyddol i sylffwr nawr mewn gwair a chnydau eraill.

Ymateb gwair i sylffwr o ran cynnyrch

Ymateb gwair i sylffwr o ran cynnyrch


Daw'r data hwn o gyfres o dreialon a gynhaliwyd yn y 1990au sy'n dangos cynnydd mewn cynnyrch mewn ymateb i sylffwr. Ers hynny, o ganlyniad i leihad mewn gwaddodiad atmosfferig, bydd yr ymateb yn sicr wedi cynyddu.

Effaith sylffwr ar gynnyrch silwair toriad cyntaf

Effaith sylffwr ar gynnyrch silwair toriad cyntaf

 

Effaith gwahanol wrteithiau ar gynnyrch gwair deunydd syc

Effaith gwahanol wrteithiau ar gynnyrch gwair deunydd syc

Mae angen hefyd ystyried magnesiwm. Mae magnesiwm yn faethyn hanfodol, a phan fydd diffyg magnesiwm fe fydd lleihad sylweddol mewn cynnyrch glaswelltir.

Effeithiau microfaethynnau ar gynnyrch glaswelltir

Effaith manganîs a sinc ar gynnyrch silwair toriad cyntaf

Effaith manganîs a sinc ar gynnyrch silwair toriad cyntaf


Profwyd hefyd bod sinc a manganîs yn cael effaith ar gynnyrch glaswelltir.

Arferion rheoli cnydau eraill sy'n dylanwadu ar gynnyrch glaswelltir

  • Cynnal y pH cywir yn y pridd
  • Cynnal strwythur pridd da a lleihau cywasgiad pridd
  • Gwella a chynyddu draeniad pridd
  • Cynnal cyfran uchel o rywogaethau a ddymunir o fewn y borfa er mwyn cael y gwerth maethol a'r cynnyrch gorau posibl
  • Ail-hadu'n rheolaidd a/neu gor-hau i gynnal porfeydd o ansawdd uchel ar draws y fferm a dewis amrywiaethau ar gyfer ansawdd yn ogystal â chynnyrch.
  • Topio i dynnu deunydd bras a llyfnu i dynnu deunydd marw ac agor y borfa, a bydd y ddau yn annog cadeirio.
  • Rheoli pori'n effeithiol er mwyn osgoi difrod a lleihau gwrthodiad.

Cyngor cysylltiedig

Tyfu'r dyfodol | Hybu tyfiant y gwanwyn

Hybu tyfiant y gwanwyn gyda gwasgaru nitrogen ynghyd a sylffwr

Bydd defnyddio nitrogen cynnar fel nitrad yn rhoi'r dechrau gorau i'r borfa, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sylffwr - mae'n gwella effeithlonrwydd nitrogen ac yn gwneud yn iawn am y diffygion yn eich pridd.
Sut i wella ansawdd glaswelltir

Sut i wella ansawdd glaswelltir

Y tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori yw ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid. Dylanwadir yn gryf ar bob un o'r elfennau hyn gan raglen faeth gytbwys.
Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Mae gan anifeiliaid pori ofynion gwahanol am ficrofaethynnau na'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Mae seleniwm yn faethyn hanfodol i anifeiliaid ond nid ar gyfer planhigion felly mae'n bwysig bod digon ohono yn bresennol yn y gwair i...
Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Mae nifer o gwmnïau ffermio, am reswm da, wedi'u gwreiddio mewn traddodiad a phan ddaw hi i brynu gwrtaith mae ffermwr yn parhau i brynu'r hyn y maent wedi bod yn ei brynu erioed. Ond os yw peidio gwasgaru sylffwr ar borfa yn costio dros £100/hectar i chi...
Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Mae nifer o fanteision i gynyddu cyflenwad gwair gwanwyn cynnar fel y gall da byw ddechrau pori yn gynharach, nid y lleiaf arbed arian a fyddai fel arall yn cael ei wario ar brynu porthiant. Gall maeth chwarae rôl hollbwysig mewn dylanwadu ar dyfiant...
Agronomy Advice - Managing spring fertiliser and slurry applications

Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori

Yn dilyn blwyddyn arferol byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod peth maethynnau yn dal ar gael ar gyfer gwair y gwanwyn, ond yn dilyn gaeaf arbennig o wlyb efallai na fydd hyn yn wir. Felly dyma ein cyngor ar gyfer rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri.
Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster

Deg rheswm dros ddefnyddio YaraBela Nutri Booster yr haf hwn

Yr her rhwng nawr a'r hydref yw sicrhau'r tyfiant porfa gorau posibl fel y gellir ymestyn y tymor pori a bydd digon o silwair o ansawdd da ar gyfer y gaeaf. Er mwyn cefnogi ein ffermwyr da byw yn yr her hon rydym ni yn Yara yn datblygu cynhyrchion fel...
Agronomy Advice - Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair.