Mae Yara wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr yn eu brwydr i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a chynyddu tryloywder ynglŷn ag o le y daw ein bwyd.
Cyngor agronomig
Mae Yara wedi buddsoddi'n drwm mewn datblygu gwybodaeth agronomig o'r radd flaenaf sydd wedyn yn cael ei rhannu gyda'r cwsmeriaid a werthfawrogir gennym. Yn y pen draw, mae Yara am i'n cwsmeriaid gael yr enillion gorau ar fuddsoddiad a fydd hefyd yn rhoi gwell canlyniadau ar gyfer yr amgylchedd gan y bydd llai o wastraff.
Un o'r meysydd rydym wedi canolbwyntio arnynt gyda'n treialon yw archwilio sut i wneud y defnydd gorau posibl o'ch effeithlonrwydd defnydd nitrogen (NUE). Fe ddaw pwynt lle bydd defnyddio mwy o nitrogen yn dechrau rhoi canlyniadau lleihaol. Bydd hefyd yn golygu cynnydd mewn trwytholchiad i'r lefelau trwythiad, felly bydd canolbwyntio ar gael y lefel gywir o ran NUE yn rhoi gwell canlyniad ar gyfer yr amgylchedd. Mae treialon blynyddol Yara yn helpu i nodi'r lefel i anelu ati.
Y dewis o wrtaith
Mae dewis y gwrtaith cywir yn golygu mwy na dim ond sicrhau'r cnydau gorau, gall hefyd gefnogi gwell canlyniad amgylcheddol. Er enghraifft, mae YaraVera Amidas yn helpu i atal colledion nitrogen i'r lefel trwythiad oherwydd ei gyfansoddiad. Mae'r sylffwr a ychwanegir mewn Amidas yn golygu amsugniad nitrogen mwy effeithlon. Ar ei ben ei hun bydd wrea yn cynyddu pH y pridd gan arwain at golledion sylweddol mewn nitrogen. Mae sylffwr yn gwrthbwyso'r broses hon.
Nid yw pob gwrtaith yn cael ei greu yr un fath, a chred Yara y dylai tryloywder cynhyrchu bwyd roi ystyriaeth i ddulliau cynhyrchu gwrtaith. Gyda gwreiddiau Nordig, mae Yara wedi ymrwymo ers tro byd i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac wedi datblygu technoleg lleihad er mwyn tynnu dros 90% o allyriadau N2O yn ystod y broses gynhyrchu.
Arloeseddau technolegol
Mae Yara yn parhau i ganfod ffyrdd arloesol i gefnogi ffermwyr yn eu hymdrech i ddiogelu'r amgylchedd. Drwy ddarparu offer ffermio manwl gywir, megis yr N-Sensor, i ffermwyr er mwyn helpu i lywio penderfyniadau bydd yn atal defnydd gormodol ar wrtaith. Fodd bynnag, rydym bob amser yn gweithio ar ffyrdd i wella'r broses gynhyrchu gyda phrosiectau peilot i ddarparu technoleg amonia gwyrdd er mwyn lleihau ôl-troed carbon gwrtaith fel ei fod yn agos i sero, y gobeithiwn ei chyflwyno erbyn 2023.