Features

Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

By: Jez Wardman

Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair. Bydd rhoi'r lefel optimwm o nitrogen ar yr adeg gywir yn sicrhau cnwd iach a phorfa o ansawdd da.


Make your grassland fertiliser work harder
Make your grassland fertiliser work harder
Mae nitrogen yn dal i roi'r enillion gorau ar fuddsoddiad

Mae nitrogen yn ysgogi cnwd porfa. Dyma'r allwedd i sicrhau cynnyrch uchel o ddeunydd sych ac yn aml fe'i defnyddir yn strategol er mwyn cynyddu cynhyrchiant yn ôl y galw. Y gallu hwn gan wrtaith nitrogen i ysgogi cnwd porfa sy'n rhoi'r enillion hyn ar fuddsoddiad.

Beth am edrych ar ychydig ffigurau:

Silwair toriad cyntaf gyda 120kg N/hectar, gallwch yn rhesymol ddisgwyl sicrhau 5.5 t DM/hectar, gyda chost nitrogen o £102 yr hectar (N yn 85c/kg). Bydd hyn yn rhoi 20 tunnell FW/hectar o silwair, wedi'i brisio'n £25 tunnell/FW gan roi £500 yr hectar i chi. Mae hyn yn cyfateb i enillion gwerth tua 5 i 1 ar fuddsoddiad!

Silwair ail doriad gyda 90kg N/hectar, gallwch ddisgwyl cynhyrchu 2.5 t DM/hectar, gyda chost nitrogen o £76 fesul hectar (N yn 85c/kg). Bydd hyn yn cynhyrchu 9 t FW/hectar o silwair. Wedi'i brisio'n £25 tunnell/FW mae hyn yn £225 yr hectar. Mae hyn yn cyfateb i enillion gwerth tua 3 i 1 ar fuddsoddiad!

Peidiwch ag anghofio am sylffwr

Er mwyn i laswellt ddefnyddio'r nitrogen yn effeithlon mae'n bwysig nad oes unrhyw faetholyn arall yn brin, yn arbennig sylffwr. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweld ymatebion sylweddol i sylffwr, yn arbennig ar borfeydd silwair dwys. Nid yw hynny'n peri syndod gan fod dyddodiad atmosfferig wedi lleihau'n sylweddol ers y 1980au.

Mae defnydd sylffwr yn cael effaith gadarnhaol ar effeithlonrwydd defnydd nitrogen. Mae hyn yn golygu bod mwy o'r nitrogen a roddir yn cael ei droi'n brotein porfa sy'n cael yr effaith ddwbl o wella deunydd sych a lleihau colledion nitrogen i'r amgylchedd.

Yr unig ffordd sicr i osgoi ymateb nitrogen a gyfyngir gan sylffwr yw rhoi'r ddau faetholyn ar yr un pryd. Mae gwrteithiau nitrogen a sylffwr Yara i gyd yn cynnwys nitrad nitrogen ynghyd â'r sylffwr hollbwysig.

Yn nodweddiadol fe fydd ymateb cnwd i sylffwr yn tua 10% er y gall hyn fod yn nes i 20% ar briddoedd ysgafnach sydd â deunydd organig isel. Mae defnyddio'r ffigurau uchod a chost sylffwr o 35c y kg SO3 yn rhoi enillion ar fuddsoddiad mewn sylffwr o 3.5 i 1 ar gyfer y toriad cyntaf a 2 i 1 ar gyfer ail doriad. Felly mae enillion iach ar sylffwr hyd yn oed heb roi ystyriaeth i welliannau ansawdd megis canran uwch protein neu gynnydd mewn cynnwys egni.

Cofiwch gywiro pH y pridd

Un arall o'r camgymeriadau mwyaf cyffredin sy'n atal yr enillion trawiadol hyn, yw'r pH pridd anghywir. Ar borfa, y targed ar gyfer pH pridd yw 6.0. Mae sicrhau'r pH pridd cywir yn caniatáu i fioleg y pridd a phryfed genwair ffynnu a thorri lawr weddillion planhigion, gwrtaith anifeiliaid a rhyddhau'r maetholion sydd eu hangen ar gyfer tyfiant iach planhigion.

Bydd cywiro pH pridd hefyd yn cynyddu argaeledd yr holl faetholion, gan sicrhau eich bod yn cael gwell enillion ar eich buddsoddiad mewn nitrogen.

 

Cyngor cysylltiedig

Tyfu'r dyfodol | Hybu tyfiant y gwanwyn

Hybu tyfiant y gwanwyn gyda gwasgaru nitrogen ynghyd a sylffwr

Bydd defnyddio nitrogen cynnar fel nitrad yn rhoi'r dechrau gorau i'r borfa, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sylffwr - mae'n gwella effeithlonrwydd nitrogen ac yn gwneud yn iawn am y diffygion yn eich pridd.
Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Prif elfennau cynnyrch gwair yw nifer y dail fesul arwynebedd uned a'r cynnwys o ran deunydd sych. Mae rhaglen wrteithio gytbwys sy'n cynnwys yr holl facrofaethynnau a microfaethynnau yn hanfodol mwyn cael y gwerth maethol a'r cynnyrch gorau posibl.
Sut i wella ansawdd glaswelltir

Sut i wella ansawdd glaswelltir

Y tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori yw ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid. Dylanwadir yn gryf ar bob un o'r elfennau hyn gan raglen faeth gytbwys.
Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Mae gan anifeiliaid pori ofynion gwahanol am ficrofaethynnau na'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Mae seleniwm yn faethyn hanfodol i anifeiliaid ond nid ar gyfer planhigion felly mae'n bwysig bod digon ohono yn bresennol yn y gwair i...
Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Mae nifer o gwmnïau ffermio, am reswm da, wedi'u gwreiddio mewn traddodiad a phan ddaw hi i brynu gwrtaith mae ffermwr yn parhau i brynu'r hyn y maent wedi bod yn ei brynu erioed. Ond os yw peidio gwasgaru sylffwr ar borfa yn costio dros £100/hectar i chi...
Agronomy Advice - Managing spring fertiliser and slurry applications

Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori

Yn dilyn blwyddyn arferol byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod peth maethynnau yn dal ar gael ar gyfer gwair y gwanwyn, ond yn dilyn gaeaf arbennig o wlyb efallai na fydd hyn yn wir. Felly dyma ein cyngor ar gyfer rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri.
Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster

Deg rheswm dros ddefnyddio YaraBela Nutri Booster yr haf hwn

Yr her rhwng nawr a'r hydref yw sicrhau'r tyfiant porfa gorau posibl fel y gellir ymestyn y tymor pori a bydd digon o silwair o ansawdd da ar gyfer y gaeaf. Er mwyn cefnogi ein ffermwyr da byw yn yr her hon rydym ni yn Yara yn datblygu cynhyrchion fel...
Agronomy Advice - Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair.