Sut i wella ansawdd glaswelltir

Y tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori yw ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid. Dylanwadir yn gryf ar bob un o'r elfennau hyn gan raglen faeth gytbwys.

Mae maeth yn dylanwadu ar bob elfen o ansawdd gwair

Mae tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori: ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid.

Ansawdd porfa

Dylanwadir ar ansawdd porfa yn fwy gan arferion agronomig eraill yn ogystal â rheoli pori, fodd bynnag dylai cynnal lefel dda o ffrwythlondeb pridd a chynnwys rhaglen faeth cnydau gytbwys fod yn rhan bwysig o reoli glaswelltir.

Ceir tystiolaeth anuniongyrchol hefyd bod nifer o faethynnau sy'n cynnwys potasiwm, molybdenwm, boron, sinc and manganîs yn lleihau haint clefydau mewn grawnfwydydd, felly trwy estyniad mae hyn hefyd yn debygol o fod yr un fath ar gyfer rhywogaethau gwair porthiant.

Ansawdd maethol

Mesurir ansawdd maethol gwair yn nodweddiadol gan dreuliadwyedd, protein a chynnwys deunydd sych, y gellir dylanwadu ar bob un ohonynt gan faeth cnydau.

Mae treuliadwyedd yn dibynnu ar gam y tyfiant a maeth – mae gan borfa ifanc, ddeiliog lefelau D ac ME uwch na'r rheini sydd wedi dechrau tywysennu neu sy'n cynnwys llawer o ddeunydd marw. Bydd glaswelltiroedd sydd â strategaeth maeth cytbwys yn fwy blasus na'r rheini sydd wedi'u tanwrteithio.

Mae lefelau protein yn dibynnu ar gam tyfiant gwair ac effeithir arnynt gan faeth cnwd, yn arbennig gwrteithiad nitrogen. Mae lefelau yn cynyddu yn y gwanwyn cynnar. Mae ffurfiad protein yn dibynnu ar allu'r planhigyn i dynnu nitrogen o'r pridd - felly gellir dylanwadu arno gan wrteithio nitrogen ond hefyd gan lefelau potash a sylffwr a pH y pridd.

Cynnwys Deunydd Sych yw'r mwyaf amrywiol a'r un y gellir ei reoli leiaf. Cysylltir deunydd sych isel yn aml gyda thywydd gwlyb ac amodau tyfu gwael. Yn ogystal â chael effaith uniongyrchol ar gynnyrch, mae hyn hefyd yn dueddol o leihau'r ansawdd ac arwain at gymeriant dyddiol is. Hefyd, mewn silwair gall cynnwys deunydd sych uchel (>40 %) arwain at gymeriant is.

Lechyd anifeiliaid

Dylai iechyd anifeiliaid a maethiad elfen hybrin hefyd gael eu hystyried fel elfen o ansawdd gwair. Mae gan anifeiliaid pori wahanol ofynion ar gyfer elfennau hybrin o gymharu â'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Felly mae'n bwysig sicrhau bod yr elfennau hyn yn bresennol yn y gwair mewn lefelau digonol i ddiwallu gofynion maethol yr anifeiliaid. Mae sodiwm and seleniwm yn hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid ond nid oes eu hangen ar blanhigion ac mae'r canllawiau ar gyfer elfennau hybrin eraill megis magnesiwm, sinc a chopr yn uwch mewn anifeiliaid pori nac sy'n bresennol mewn gwair.

Mae gormodedd o nitrogen yn lleihau blasusrwydd silwair

Gall cyfraddau uwch o nitrogen hefyd achosi problemau gydag eplesu silwair oherwydd bod gormodedd o nitrad yn cael effaith negyddol ar y broses eplesu a bydd yn cynhyrchu silwair sy'n llai blasus a bydd yr anifeiliaid yn llai awyddus i'w fwyta.

Y Rheol Glaswelltir – Y lefel gywir o N i'w rhoi

Y Rheol Glaswelltir – Y lefel gywir o N i'w rhoi

Caiff nitrad ei gymryd i mewn gan wair yn gyflymach nac y caiff ei ymgorffori i broteinau a hyd nes y bydd yn cael ei ddefnyddio caiff y gormodedd hwn, a adnabyddir fel mewnlifiad moethus, ei storio yn y dail. Bydd gormodedd o nitrad yn bresennol os na chaniateir digon o amser rhwng ei roi a'r torri a gall hefyd ddigwydd o dan amodau o dyfiant gwael e.e. lefelau golau isel, tymheredd oer. Bydd problem hefyd os oes cyfnod sych ar ôl ei roi lle, na all nitrad gael ei sugno gan y gwreiddiau, ac yna cyfnod o dywydd gwlyb sy'n arwain at fewnlifiad moethus. Ni all y planhigyn ei droi'n brotein yn ddigon cyflym felly mae'n crynhoi yn y planhigyn.

Gall cyfraddau uchel o nitrogen achosi lleihad mewn siwgrau cnwd gan eu bod yn cael eu defnyddio i ddarparu egni ar gyfer cyfradd gynyddol tyfiant y planhigyn ac ar gyfer cynhyrchu proteinau planhigion a gallai'r gyfradd tyfiant gynyddol arwain at gynnwys deunydd sych is er, yn ymarferol, nid yw hwn yn aml yn sylweddol.

Gellir osgoi gormodedd o nitrad drwy ddilyn y Rheol Glaswelltir o roi nitrogen ar gyfradd dim uwch na 2.5kg N/hectar/dydd.

Mae diffyg ffosfforws yn lleihau treuliadwyedd

Mae ffosfforws yn chwarae rôl mewn nifer o brosesau metabolig planhigion a gweithgareddau ensymau, felly er bod y galw am ffosfforws yn isel o gymharu â'r galw am nitrogen mae'n hanfodol ei fod ar gael. Pan fo diffyg neu argaeledd isel ffosfforws bydd ansawdd maethol a threuliadwyedd y porthiant yn lleihau.

 

Prif fewnlifiad maethynnau\ pellter o'r gwreiddiau

Prif fewnlifiad maethynnau\ pellter o'r gwreiddiau

Mae ffosfforws yn ansymudol iawn mewn pridd ac mae ei argaeledd wedi'i gyfyngu gan pH a phellter o wreiddiau'r planhigyn.

Mae potasiwm yn rheoli cyfradd tyfiant dail

Potasiwm yw'r maethyn sy'n cael ei gymryd i mewn yn y symiau mwyaf gan borfa glastiroedd.

Mae gan botasiwm rôl eang mewn mewnlifiad maethynnau sy'n effeithio ar blanhigion, ffotosynthesis, cyfradd tyfiant a gwerth porthiant.

Os nad oes symiau digonol o botasiwm ar gael cyfyngir ar gyfradd y tyfiant a'r cynnyrch. Fodd bynnag gallai fod perygl i iechyd anifeiliaid os rhoddir gormod o botasiwm gyda risg gynyddol o hypomagneremia.

Mae sylffwr yn hanfodol ar gyfer y cynnwys protein

Mae sylffwr yn hanfodol ar gyfer ffurfiad asidau amino proteinau ac ensymau ac felly'n hollbwysig ar gyfer tyfiant a datblygiad.

Effaith sylffwr ar y cynnwys protein crai a siwgr mewn gwair

Effaith sylffwr ar y cynnwys protein crai a siwgr mewn gwair

 

Effaith sylffwr ar y cynnwys siwgr mewn gwair

Effaith sylffwr ar y cynnwys siwgr mewn gwair

Gall diffyg magnesiwm achosi problemau iechyd ymhlith anifeiliaid

Mae angen hefyd ystyried magnesiwm. Mae magnesiwm yn faethyn hanfodol, a phan fydd diffyg magnesiwm fe fydd lleihad sylweddol yn ansawdd y glaswelltir a gallai hyn gael canlyniadau difrifol ar iechyd anifeiliaid.

Mae sodiwm and seleniwm yn hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid ond nid oes eu hangen ar blanhigion ac mae'r canllawiau ar gyfer elfennau hybrin eraill megis magnesiwm, sinc a chopr yn uwch mewn anifeiliaid pori nac sy'n bresennol mewn gwair.

Mae sodiwm yn gwella blasusrwydd

Mae sodiwm yn bwysig ar gyfer maethiad anifeiliaid ac yn aml ni fydd digon ohono mewn gwair i ddiwallu anghenion anifeiliaid pori.

Gallai symptomau diffyg sodiwm ymhlith gwartheg gynnwys archwaeth bwyd isel, lleihad mewn ffrwythlondeb a chynhyrchu llai o laeth. Mae sodiwm hefyd yn cynyddu blasusrwydd porfa, ac felly'n cynyddu cymeriant deunydd sych.

Mae gwrteithiau sy'n cynnwys sodiwm yn cynyddu lefelau sodiwm mewn gwair a dangoswyd hefyd eu bod yn cynyddu cynhyrchiant.

Effaith sodiwm ar gynnyrch llaeth a chymeriant silwair

Effaith sodiwm ar gynnyrch llaeth a chymeriant silwair

 

Dylanwad gwrtaith ar y cynnwys sodiwm mewn gwair

Dylanwad gwrtaith ar y cynnwys sodiwm mewn gwair

 

Mae seleniwm yn faethyn hanfodol ar gyfer anifeiliaid

Mae seleniwm yn faethyn hanfodol ar gyfer anifeiliaid, sy'n angenrheidiol ar gyfer ffurfio glwtathion perocsidas, gwrthocsidydd, ond ni chaiff ei gydnabod yn eang fel maethyn planhigion.

Manteision iechyd yn dilyn defnyddio seleniwm

Manteision iechyd yn dilyn defnyddio seleniwm

 

Dylanwad gwrtaith sy'n cynnwys seleniwm ar y cynnwys seleniwm mewn gwair

Dylanwad gwrtaith sy'n cynnwys seleniwm ar y cynnwys seleniwm mewn gwair

Arferion rheoli cnydau eraill sy'n dylanwadu ar ansawdd glaswelltir

Gall tyfwyr hefyd ddylanwadu ar ansawdd glaswelltir gyda'r arferion agronomig canlynol:

  • Cynnal y pH cywir yn y pridd.
  • Cynnal strwythur pridd da a lleihau cywasgiad pridd.
  • Gwella a chynnal draeniad pridd.
  • Cynnal cyfradd uchel o'r rhywogaeth gwair a ddymunir o fewn y borfa er mwyn cael y gwerth maethol gorau posibl.
  • Ail-hadu'n rheolaidd a/neu gor-hau i gynnal porfeydd o ansawdd uchel ar draws y fferm a dewis amrywiaethau ar gyfer ansawdd yn ogystal â chynnyrch.
  • Topio i dynnu deunydd bras a llyfnu i dynnu deunydd marw ac agor y borfa, a bydd y ddau yn annog cadeirio.
  • Rheoli pori'n effeithiol er mwyn osgoi difrod a lleihau bod ardaloedd yn cael eu gwrthod.

Cyngor cysylltiedig

Tyfu'r dyfodol | Hybu tyfiant y gwanwyn

Hybu tyfiant y gwanwyn gyda gwasgaru nitrogen ynghyd a sylffwr

Bydd defnyddio nitrogen cynnar fel nitrad yn rhoi'r dechrau gorau i'r borfa, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sylffwr - mae'n gwella effeithlonrwydd nitrogen ac yn gwneud yn iawn am y diffygion yn eich pridd.
Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Prif elfennau cynnyrch gwair yw nifer y dail fesul arwynebedd uned a'r cynnwys o ran deunydd sych. Mae rhaglen wrteithio gytbwys sy'n cynnwys yr holl facrofaethynnau a microfaethynnau yn hanfodol mwyn cael y gwerth maethol a'r cynnyrch gorau posibl.
Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Mae gan anifeiliaid pori ofynion gwahanol am ficrofaethynnau na'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Mae seleniwm yn faethyn hanfodol i anifeiliaid ond nid ar gyfer planhigion felly mae'n bwysig bod digon ohono yn bresennol yn y gwair i...
 Diffyg sylffwr glaswellt

Nodi a diagnosio diffygion maetholion glaswelltir

Nodi a diagnosio a yw'ch glaswelltir yn dioddef o ddiffygion maetholion a dysgu mwy am y symptomau a'r achosion a sut i reoli neu gywiro'r diffyg
Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Mae nifer o gwmnïau ffermio, am reswm da, wedi'u gwreiddio mewn traddodiad a phan ddaw hi i brynu gwrtaith mae ffermwr yn parhau i brynu'r hyn y maent wedi bod yn ei brynu erioed. Ond os yw peidio gwasgaru sylffwr ar borfa yn costio dros £100/hectar i chi...
Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Mae nifer o fanteision i gynyddu cyflenwad gwair gwanwyn cynnar fel y gall da byw ddechrau pori yn gynharach, nid y lleiaf arbed arian a fyddai fel arall yn cael ei wario ar brynu porthiant. Gall maeth chwarae rôl hollbwysig mewn dylanwadu ar dyfiant...
Agronomy Advice - Managing spring fertiliser and slurry applications

Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori

Yn dilyn blwyddyn arferol byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod peth maethynnau yn dal ar gael ar gyfer gwair y gwanwyn, ond yn dilyn gaeaf arbennig o wlyb efallai na fydd hyn yn wir. Felly dyma ein cyngor ar gyfer rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri.
Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster

Deg rheswm dros ddefnyddio YaraBela Nutri Booster yr haf hwn

Yr her rhwng nawr a'r hydref yw sicrhau'r tyfiant porfa gorau posibl fel y gellir ymestyn y tymor pori a bydd digon o silwair o ansawdd da ar gyfer y gaeaf. Er mwyn cefnogi ein ffermwyr da byw yn yr her hon rydym ni yn Yara yn datblygu cynhyrchion fel...
Agronomy Advice - Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair.