Peidiwch â chyfaddawdu ar gynnyrch nac ansawdd eich silwair drwy dorri corneli gyda'ch rhaglen gwrtaith
Pam mae maeth cytbwys yn bwysig wrth dyfu glaswellt ar gyfer silwair?
Fel unrhyw gnwd, mae gwair angen cydbwysedd o ran maeth. Mae angen nitrogen, potasiwm, ffosffad a sylffwr ac mae angen llawer o'r macrofaetholion hyn yn ystod tyfiant y gwanwyn, felly mae'n hollbwysig bod symiau digonol o'r holl faetholion hyn ar gael pan fydd eu hangen ar y planhigyn.
- Mae nitrogen yn ysgogi cynnyrch. Nitrogen yw'r prif faetholyn sydd ei angen ar wair. Dyma'r allwedd ar gyfer sicrhau cynnyrch uchel o ddeunydd sych ac yn aml fe'i defnyddir yn strategol er mwyn cynyddu cynhyrchiant yn ôl y galw.
- Mae ffosfforws yn hybu tyfiant. Er bod y galw o ran ffosfforws yn isel o gymharu â nitrogen mae'n hanfodol ei fod ar gael. Mae ffosfforws yn hybu tyfiant cyflym gwair ac mae'n bwysig ar gyfer cynyddu cynnyrch. Gall diffyg mewn ffosfforws leihau ansawdd o ran maeth a threuliadwyedd.
- Mae'r angen lefelau uchel o botasiwm. Potasiwm yw'r maetholyn sydd ei angen yn y symiau mwyaf ar lastiroedd silwair. Mae ganddo rôl eang mewn mewnlifiad maetholion sy'n effeithio ar blanhigion, ffotosynthesis, cyfradd tyfiant a gwerth porthiant.
- Mae sylffwr yn hanfodol ar gyfer proteinau. Mae defnyddio sylffwr yn gostwng lefelau nitrad gwair ar adeg cynhaeafu, gan wella epleseg silwair. Mae diffyg sylffwr yn lleihau effeithlonrwydd defnydd nitrogen a fydd yn lleihau'r cynnyrch. Bydd sylffwr yn gwella lefelau protein gwair, gan leihau'r angen am borthiannau ategol.
Nitrogen
Mae pob uned o nitrogen yn rhoi 45kg o silwair
Ffosffad
Mae ffosffad yn hybu tyfiant cyflym maint dail a'r planhigyn i gadeirio'n ddwysach
Potasiwm
Gallech golli 30% o'ch cynnyrch oherwydd prinder potash
Sylffwr
Mae'r toriadau cyntaf angen symiau uchel o sylffwr na ellir ei ddiwallu drwy slyri yn unig
Pam fod sylffwr mor bwysig i laswelltir
Mae pob planhigyn, gan gynnwys glaswellt, angen lefelau digonnol sylffwr i allu defnyddio nitrogen yn effeithlon. Gyda'i gilydd, mae nitrogen a sylffwr yn flociau adeiladu hollbwysig ar gyfer protein, felly dylid gwasgaru N a S ar yr un pryd.
Mae sylffwr yn ymddwyn yn debyg iawn i nitrogen yn y pridd, yn trwytholchi'n hawdd ar ffurf sylffad yn union fel y gwna nitradau, golyga hyn y dylech ei drin yn yr un modd â nitrogen. Ni fyddech yn defnyddio ein holl nitrogen mewn un tro a disgwyl iddo fodloni gofyniad y borfa drwy gydol y tymor tyfu, felly pam y byddech chi'n trin sylffwr fel hyn? Mae gwasgaru sylffwr mewn un tro yn golygu bod potensial mawr i lawer ohono drwytholchi drwy broffil y pridd ac nid yw wedyn ar gael ar gyfer y cnwd. Mae defnyddio sylffwr fesul dipyn ac yn aml, fel y byddech yn ei wneud gyda nitrogen, yn sicrhau bod gan y glaswellt fynediad ato drwy gydol y tymor tyfu.
Rheswm arall dros ddefnyddio sylffwr fesul dipyn ac yn aml ynghyd â'ch nitrogen yw bod yna berthynas agos iawn rhwng y ddau faetholyn. Fel y soniwyd, ni all y glaswellt gymryd a defnyddio nitrogen yn effeithiol oni bai bod digon o sylffwr yn bresennol. Gyda mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gynyddu effeithlonrwydd defnydd nitrogen (NUE) ar ffermydd, mae hon yn un ffordd hawdd i ddechrau gwneud hynny. Mae sicrhau bod digon a nitrogen a sylffwr ym mhob gwasgariad yn golygu bod y ddau faetholyn yn gweithio gyda'i gilydd sy'n well ar gyfer y glaswelllt, yr amgylchedd a'ch poced.
Dim gwahanu
Nid yw gwrteithiau cyfansawdd YaraMila yn gadael i faetholion wahanu
Dim angen addasiadau
Nid yw gwrteithiau cyfansawdd YaraMila yn ei gwneud hi'n ofynnol i chi addasu gosodiadau'r peiriant gwasgaru
Pam mae gwrtaith cyfansawdd gymaint yn well na chyfuniad?
- Dim maetholion yn cael eu gwahanu. Ni wahenir maetholion wrth ei gludo, ei drin neu ei ddefnyddio. Gan fod yr holl ronynnau yn gyson o ran maint a dwysedd swmp nid yw gwahanu yn bosibl, ac mae pob gronyn yn cynnwys union yr un faint o gynnwys o ran maetholion.
- Dim angen addasu gosodiadau'r peiriant gwasgaru. Nid oes angen addasu gosodiadau'r peiriant gwasgaru, yn wahanol i pan wasgerir cymysgedd gyda chyfatebiaeth wael o ran maint pan y gallai fod angen i bob elfen gael gosodiad gwahanol ar y peiriant gwasgaru.
- Gwasgaru ymhellach yn fwy cyson. Mae cyfansoddion YaraMila i gyd yn ronynnau cryf sy'n gallu gwasgaru ymhellach heb y perygl o chwalu neu droi'n llwch, yn wahanol i gymysgeddau sydd yn aml yn cynnwys priliau gwan sy'n gallu chwalu pan gânt eu taro gan yr esgyll.
10%
Yn ôl treialon gall sylffwr roi 10% yn fwy o silwair i chi
3%
Yn ôl treialon gallai defnyddio gwrtaith cyfansawdd o ansawdd da roi 3% yn ychwanegol am bob erw i chi
6%
Yn ôl treialon mae oedi am 8 diwrnod cyn defnyddio yn rhoi colled cyfwerth â 6% mewn silwair
Beth yw'r ffigurau?
Gall dim ond ychydig o newidiadau wneud gwahaniaeth, felly beth am gael golwg ar ychydig o ffigurau.
Cynnydd mewn cynnyrch gan sylffwr. Bydd gwasgaru sylffwr drwy ddewis YaraMila Extragrass (27-5-5 + 6% SO3) neu YaraMila Silage Booster (20-4.5-14.5 + 7.5% SO3 + Se) yn hytrach na defnyddio cyfuniad cyfatebol yn rhoi 10% yn rhagor o gynnyrch silwair i chi.
Cosb o ran cynnyrch o ddefnyddio cymysgedd. Mae treialon wedi dangos cosb cynnyrch gwerth 3% ar gyfartaledd pan ddefnyddir cymysgeddau o ansawdd gwael.
Colled cynnyrch o ganlyniad i oedi. Mae treialon wedi dangos colled cynnyrch gwerth 6% o ganlyniad i oediad 8 diwrnod mewn gwasgaru.
Felly, yn seiliedig ar y ffigurau hyn, mae'n golygu y ceir bron i 20% yn rhagor o gynnyrch silwair gyda dim ond ychydig o newidiadau syml.
Gyda chynnyrch ail doriad o dyweder 6t/erw yn cael ei brisio'n £30/t mae'r cynnnyrch ychwanegol hwn yn werth tua £35 yr erw. Ond cofiwch y bydd 1 dunnell o wrtaith yn trin 5 i 6 erw (yn dibynnu ar y gyfradd wasgaru), felly mae gwasgaru YaraMila NPKS cyfansawdd yn werth £117 - £140 yn ychwanegol y dunnell o wrtaith. Ond peidiwch ag anghofio oherwydd os byddwch yn oedi ei wasgaru gan fwy nag 8 diwrnod gallech fod yn colli £10 yr erw yn y pen draw.
Neu mewn geiriau eraill, byddai angen i wrtaith cymysg heb sylffwr fod yn £140 y dunnell yn rhatach na'r gwrtaith Yara cymharus dim ond er mwyn peidio â gwneud colled.
Mae gwrtaith cymysg rhad yn aml yn aneconomaidd
Pe byddech yn dewis gwrtaith cymysg rhatach heb sylffwr yn hytrach na gwrtaith cyfansawdd YaraMila byddai'n rhaid iddo fod £117 - £140 y dunnell yn rhatach dim ond er mwyn peidio gwneud colled, yn seiliedig ar yr ymateb o ran cynnyrch y silwair ail doriad.
Recommended silage fertilisers
The following grassland fertilisers all supply balanced nutrition including nitrogen and sulphur and are recommended for silage.
Related agronomy advice articles
Where can I buy Yara fertiliser in Wales ?
Yara supply our solid and liquid fertilisers and micronutrients in Wales through a network of local suppliers Use our interactive map to locate your nearest suppliers.
Read more about improving nutrient management
Future-proof your farm
Find out how your farm can become more productive, profitable and sustainable by future proofing your resources, your profit and our planet.