Mae pob planhigyn, gan gynnwys glaswellt, angen lefelau digonnol sylffwr i allu defnyddio nitrogen yn effeithlon. Gyda'i gilydd, mae nitrogen a sylffwr yn flociau adeiladu hollbwysig ar gyfer protein, felly dylid gwasgaru N a S ar yr un pryd.
Mae sylffwr yn ymddwyn yn debyg iawn i nitrogen yn y pridd, yn trwytholchi'n hawdd ar ffurf sylffad yn union fel y gwna nitradau, golyga hyn y dylech ei drin yn yr un modd â nitrogen. Ni fyddech yn defnyddio ein holl nitrogen mewn un tro a disgwyl iddo fodloni gofyniad y borfa drwy gydol y tymor tyfu, felly pam y byddech chi'n trin sylffwr fel hyn? Mae gwasgaru sylffwr mewn un tro yn golygu bod potensial mawr i lawer ohono drwytholchi drwy broffil y pridd ac nid yw wedyn ar gael ar gyfer y cnwd. Mae defnyddio sylffwr fesul dipyn ac yn aml, fel y byddech yn ei wneud gyda nitrogen, yn sicrhau bod gan y glaswellt fynediad ato drwy gydol y tymor tyfu.
Rheswm arall dros ddefnyddio sylffwr fesul dipyn ac yn aml ynghyd â'ch nitrogen yw bod yna berthynas agos iawn rhwng y ddau faetholyn. Fel y soniwyd, ni all y glaswellt gymryd a defnyddio nitrogen yn effeithiol oni bai bod digon o sylffwr yn bresennol. Gyda mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gynyddu effeithlonrwydd defnydd nitrogen (NUE) ar ffermydd, mae hon yn un ffordd hawdd i ddechrau gwneud hynny. Mae sicrhau bod digon a nitrogen a sylffwr ym mhob gwasgariad yn golygu bod y ddau faetholyn yn gweithio gyda'i gilydd sy'n well ar gyfer y glaswelllt, yr amgylchedd a'ch poced.