Mae ychwanegu sylffwr yn gwneud gwell defnydd o nitrogen
Mae rhoi gwrteithwyr sy'n cynnwys nitrogen a sylffwr yn golygu bod y glaswellt yn defnyddio nitrogen yn fwy effeithiol, rydych chi'n cael mwy o gilfachau o ddeunydd sych fesul kg o nitrogen rydych chi'n ei gymhwyso.
Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr
Nid yw diffyg sylffwr yn ffenomenon newydd. Mae lefelau sylffwr mewn pridd wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd felly gŵyr pawb ohonom bod angen delio â'r sefyllfa. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw eich glaswelltir yn dioddef o ddiffyg sylffwr?
- Ydych chi'n meddwl bod digon o sylffwr yn eich pridd?
- Ydych chi'n dibynnu ar slyri i adnewyddu lefelau sylffwr?
- Ydych chi eto i gael eich argyhoeddi ynglŷn â phwysigrwydd sylffwr ac felly'n gwneud dim?
Mae rhai atebion hawdd ar gyfer delio â diffyg sylffwr:
- Os nad ydych wedi'ch argyhoeddi gan y data, gwnewch brawf pridd er mwyn rhoi gwybod i chi beth yw union lefelau'r sylffwr.
- Newidiwch eich gwrtaith i un sy'n cynwys sylffwr.
- Dewiswch wrtaith cyfansawdd o ansawdd da, dim cymysgedd, er mwyn elwa gan wasgariad mwy cyfartal o'r holl faetholion.
- Defnyddiwch ef fesul dipyn ac yn aml drwy gydol y tymor tyfu er mwyn osgoi trwytholchiad a sicrhau bod y sylffwr ar gael pan fydd ei angen fwyaf ar y glaswellt.
Pa mor gyffredin yw diffyg sylffwr?
88%
Mae 88% o briddoedd glaswelltir yn ddiffygiol mewn sylffwr
85%
Mae 85% o briddoedd âr yn ddiffygiol mewn sylffwr
- Yn seiliedig ar samplau a dderbyniwyd yng Yara Analytical Services yn 2019 roedd 85% o briddoedd âr ac 88% o briddoedd glaswelltir yn ddiffygiol mewn sylffwr.
Pam fod sylffwr mor bwysig i laswelltir
Mae pob planhigyn, gan gynnwys glaswellt, angen lefelau digonnol sylffwr i allu defnyddio nitrogen yn effeithlon. Gyda'i gilydd, mae nitrogen a sylffwr yn flociau adeiladu hollbwysig ar gyfer protein, felly dylid gwasgaru N a S ar yr un pryd.
Mae sylffwr yn ymddwyn yn debyg iawn i nitrogen yn y pridd, yn trwytholchi'n hawdd ar ffurf sylffad yn union fel y gwna nitradau, golyga hyn y dylech ei drin yn yr un modd â nitrogen. Ni fyddech yn defnyddio ein holl nitrogen mewn un tro a disgwyl iddo fodloni gofyniad y borfa drwy gydol y tymor tyfu, felly pam y byddech chi'n trin sylffwr fel hyn? Mae gwasgaru sylffwr mewn un tro yn golygu bod potensial mawr i lawer ohono drwytholchi drwy broffil y pridd ac nid yw wedyn ar gael ar gyfer y cnwd. Mae defnyddio sylffwr fesul dipyn ac yn aml, fel y byddech yn ei wneud gyda nitrogen, yn sicrhau bod gan y glaswellt fynediad ato drwy gydol y tymor tyfu.
Rheswm arall dros ddefnyddio sylffwr fesul dipyn ac yn aml ynghyd â'ch nitrogen yw bod yna berthynas agos iawn rhwng y ddau faetholyn. Fel y soniwyd, ni all y glaswellt gymryd a defnyddio nitrogen yn effeithiol oni bai bod digon o sylffwr yn bresennol. Gyda mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gynyddu effeithlonrwydd defnydd nitrogen (NUE) ar ffermydd, mae hon yn un ffordd hawdd i ddechrau gwneud hynny. Mae sicrhau bod digon a nitrogen a sylffwr ym mhob gwasgariad yn golygu bod y ddau faetholyn yn gweithio gyda'i gilydd sy'n well ar gyfer y glaswelllt, yr amgylchedd a'ch poced.
Beth yw'r ffordd orau i wasgaru sylffwr ar laswelltir?
Dylai sylffwr bob amser gael ei wasgaru ar yr un adeg â nitrogen
Dylid defnyddio sylffwr 'fesul dipyn ac yn aml' drwy gydol y tymor
Allwch chi fforddio anwybyddu diffyg sylffwr?
Mewn cyfnod sy'n ariannol heriol mae'n debyg ei bod yn teimlo'n ddewis hawdd i leihau costau. Ond gall hynny fod yn aneconomaidd. Gall yr arbediad a wneir ar sylffwr fod yn ddrud iawn i chi o ran cynnyrch - hyd at 30% o golledion yn ôl yr AFBI. Dim ond drwy edrych ar safleoedd cyfartalog, yn seiliedig ar ddata treialon gall defnyddio sylffwr roi 10% yn rhagor o gynnyrch.
Er y byddai Yara bob amser yn eich annog i samplu pridd fel eich bod yn rhoi gwrtaith sy'n briodol i anghenion eich tir a'ch cnydau, mewn achos diffyg sylffwr, mae hynny bron yn ddiangen. Gwyddom fod pridd yn ddiffygiol mewn sylffwr. Wyddoch chi beth yw canlyniadau peidio â delio â'r diffyg hwnnw? Gallai gostio hyd at £20/erw i chi!
Ond mae newyddion hyd yn oed yn well mewn cynnwys sylffwr yng ngwrteithiad nitrogen: mae sylffwr yn gwella effeithlonrwydd defnydd nitrogen. Mewn geiriau eraill, mae buddsoddiad mewn sylffwr yn golygu bod eich buddsoddiad mewn nitrogen yn mynd ymhellach hefyd. Ac fe welwch lai o wastraff i'r amgylchedd...mae pawb ar eu hennill!
Faint mae diffyg sylffwr yn ei gostio i mi?
10% yn ychwanegol mewn cynnyrch
Bydd defnyddio sylffwr yn rhoi 10% yn ychwanegol o gynnyrch glaswellt
Tunnell ychwanegol fesul erw
Mae cynnydd gan 10% o gynnyrch yn golygu tunnell ychwanegol o silwair toriad cyntaf fesul erw
£20 yn ychwanegol fesul erw
Yn seiliedig ar y prisiau presennol, mae tunnell ychwanegol o silwair fesul erw yn werth £20
A yw'n werth gwasgaru sylffwr ar laswelltir mewn gwirionedd?
Sut bynnag y byddwch yn edrych ar y sefyllfa mae'n gwneud synnwyr i ddefnyddio sylffwr, ond beth am gael golwg ar ychydig o ffigurau.
Bydd gwasgaru sylffwr drwy ddewis YaraMila Extragrass (27-5-5 + 6% SO3) neu YaraMila Stockbooster S (25-5-5 + 5% SO3 + Se) yn hytrach na defnyddio cymysgedd nodweddiadol 27-5-5 yn rhoi 10% yn rhagor o gynnyrch silwair toriad cyntaf i chi. Mae hyn yn cyfateb i 1 dunnell ychwanegol fesul erw a fyddai'n werth £20 yn ychwanegol.
Ond, mae angen i chi gofio y bydd 1 dunnell o wrtaith yn trin 5.5 i 6.5 erw (yn dibynnu ar y gyfradd wasgaru), felly mae newid i YaraMila NPKS cyfansawdd yn werth rhwng £110 a £130 yn ychwanegol fesul tunnell o wrtaith.
Mewn geiriau eraill, byddai angen i wrtaith cymysg 27-5-5 fod yn £130 y dunnell yn rhatach na'r gwrtaith Yara dim ond er mwyn peidio â gwneud colled.
Mae gwrtaith cymysg rhad yn aml yn aneconomaidd
Pe byddech yn dewis gwrtaith cymysg rhatach heb sylffwr yn hytrach na gwrtaith cyfansawdd YaraMila byddai'n rhaid iddo fod £117 - £140 y dunnell yn rhatach dim ond er mwyn peidio gwneud colled, yn seiliedig ar yr ymateb o ran cynnyrch y silwair ail doriad.
Recommended grassland fertilisers
Explore our range of nitrate and urea fertilisers with sulphur
Related agronomy advice articles
Where can I buy Yara fertiliser in Wales ?
Yara supply our solid and liquid fertilisers and micronutrients in Wales through a network of local suppliers Use our interactive map to locate your nearest suppliers.
Read more about improving nutrient management
Future-proof your farm
Find out how your farm can become more productive, profitable and sustainable by future proofing your resources, your profit and our planet.